R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch datganoli pellach i Gymru? OAQ(4)1901(FM)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella canlyniadau iechyd yng Nghanol De Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ(4)1900(FM)
3. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i ganfod niwed i'r llygaid sy'n gysylltiedig â diabetes? OAQ(4)1902(FM)
4. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar siarter iaith 'Tanio'r Ddraig' ysgolion clwstwr Ystalyfera? OAQ(4)1892(FM)W
5. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllid ar gyfer ymchwil a datblygu yng Nghymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)1899(FM)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amseroedd ymateb ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru cyn dechrau pwysau'r gaeaf? OAQ(4)1885(FM)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r angen i newid ffiniau cyfredol NUTS2 a NUTS3? OAQ(4)1890(FM)
8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr effaith y caiff penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri'r Gronfa Byw'n Annibynnol ar Gymru? OAQ(4)1891(FM)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr agenda ar gyfer darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus yn Ynys Môn? OAQ(4)1903(FM)W
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut y bydd toriadau i gyllideb llywodraeth leol yn effeithio ar bobl yng Nghymru? OAQ(4)1897(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y gofal iechyd a ddarperir i bobl sydd â thiwmorau niwroendocrin sy'n byw yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)1887(FM)
12. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch cynnwys asesiadau iaith yn y Bil Cynllunio? OAQ(4)1896(FM)W
13. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fynediad i feddygfeydd yng Nghymru? OAQ(4)1895(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)1886(FM)
15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i brif strydoedd lleol? OAQ(4)1893(FM)